Mae blwyddyn aelodaeth yn rhedeg o'r 1af Ionawr – 31ain Rhagfyr a pha bryd bynnag yr ydych yn ymaelodi mae hawl gennych i bob rhifyn o'r Cylchgrawn am y flwyddyn.
Mae nifer gwahanol o gategorïau o aelodaeth ar gael, ar gyfer unigolion, teuluoedd a sefydliadau. Taliadau blynyddol cyfredol: Unigolion £8, Teulu £10, Tramor (non-EU) £11, Sefydliadau £8, Myfyrwyr £6.
Gellir gwneud cais am aelodaeth drwy ddanfon y ffurflen gais ynghyd a'r tâl pwrpasol i'r Ysgrifennydd.
Gall unigolion sy'n byw dramor ymuno neu adnewyddu aelodaeth a thalu gyda charden credyd drwy ddefnyddio tudalen y Gymdeithas ar Genfair.
Os oes gennych gyfri banc yn y D.U., efallai byddai'n well gennych dalu eich taliad cyntaf a thaliadau canlynol drwy Archeb Banc. Os hoffech dalu drwy Archeb peidiwch â danfon eich ffurflen gais ar hyn o bryd - danfonwch e-bost at yr
am fwy o wybodaeth.
Diddordebau Aelodau
Wrth ymuno a'r Gymdeithas gwahoddir aelodau i nodi enwau eu cyndeidiau ar y ffurflen bwrpasol. Cyhoeddir yr enwau ynghyd a blynyddoedd / ardaloedd o ddiddordeb yn y Cylchgrawn, a hefyd yn ein mynegai canolig er mwyn ein galluogi i roi aelodau sydd a'r un diddordeb cyfenw ac ardaloedd yn gysylltiedig â'i gilydd. Gall aelodau ddiweddaru neu ychwanegu enwau drwy ddefnyddio'r ffurflen bwrpasol, a'i ddanfon i Olygydd y Cylchgrawn.
Gwasanaeth chwilio
Mae'r Gymdeithas yn medru cynnig gwasanaeth chwilio cyfyngedig i aelodau yn unig drwy wasanaeth gwirfoddol Swyddog Ymchwil profiadol. Am fwy o wybodaeth danfonwch e-bost at yr
.